Gwobr ddisglair i Blas Pilipala

Mae’r ymgyrch i hysbysebu Plas Pilipala – cartref newydd i bilipalod trofannol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – wedi cael ei anrhydeddu gyda gwobr yn yr ‘Oscars’ o farchnata yng Nghymru.

Cafodd ei enwi’r ‘Ymgyrch Hysbysebu Gorau’ yn noson wobrwyo’r Sefydliad Siartredig o Farchnata Cymru 2016.  Fe wnaeth hefyd ddod yn ail yn y categori Ymgyrch Integredig Gorau.
Fe wnaeth Cyfarwyddwr yr Ardd Huw Francis, Pennaeth Adrannau Gwyddoniaeth ac Addysg, Dr Natasha de Vere a Phennaeth Marchnata David Hardy cymryd i’r llwyfan i gasglu’r wobr yng nghwmni Alison Debono, Cyfarwyddwraig yr asiantaeth hysbysebu ‘The Media Angel’, a oedd yn bartneriaid yn yr ymgyrch ac sydd a’i chanolfan ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
Wedi cynnwys yn yr ymgyrch integredig, a chafodd ei gynllunio a’i chyflawni gan Media Angel, oedd fideo atyniadol, cwis ar lein, arddangosfa a hysbysebion radio ac awyr agored yn targedu teuluoedd â phlant ar draws De a Dwyrain Cymru.  Cafwyd canlyniadau ffantastig dros yr haf gyda chynnydd o 63% ym mynediadau teuluoedd ym mis Awst yn unig.
Dywedodd Mr Hardy:  “Yr oedd yn noson ardderchog ac yn anrhydedd ffantastig i bawb yn yr Ardd.  Mae gennym dîm rhagorol yma nawr ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan yn y cynllunio, dyluniad, agoriad a’r hyrwyddiad a gweithrediad o Blas Pilipala.  Yn fwyaf pwysig, mae wedi bod yn hynod o boblogaidd gyda’n hymwelwyr ac wedi troi’n lwc gyda’r niferoedd ohonynt.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ardd Huw Francis: “Mae Plas Pilipala yn atyniad diddorol iawn a phoblogaidd ac roedd yr ymdrech i’w hyrwyddo yn un deniadol ac effeithlon, a wnaeth cyfrannu’n aruthrol i beth oedd yn dymor arbennig i ni.  Rydym wedi mwynhau mas draw heno ond nid ydym yn hunanfodlon, mae’r gwaith yn parhau.  Rydym yn barod yn cynllunio llawer mwy o atyniadau a digwyddiadau i wneud yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn atyniad na ellir ei golli a’n ased bendigedig i Gymru.”
Fe wnaeth hefyd talu teyrnged i dîm yr Ardd ac i’r gwaith dylunio graffigol gan Rebecca Ingleby-Davies, sy’n rhedeg asiantaeth dylunio ei hun a’i chanolfan yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn awr i ffwrdd o’r gorllewin o Gaerdydd, ond dwy funud o’r brif ffordd ddeuol M4/A48.
*Mae Gwobrwyon Marchnata Cymru urddas y SSF (a enwyd Canmol yn flaenorol) yn gwobrwyo rhagoriaeth ac yn dathlu’r cyflawniadau gan weithwyr proffesiynol marchnata yng Nghymru gan roi’r gydnabyddiaeth i unigolion, timoedd a mudiadau sy’n ei haeddu. Cynhaliwyd y seremoni gwobrwyo ar Ddydd Iau