Agoriad Cyfleuster Derbyn Planhigion

Yn ddiweddar, aeth Curadur Gardd Fotaneg, Alex Summers ar daith i un o’r gerddi botanegol hynaf yn y byd, Hortus Botanicus yn Amsterdam i gasglu fflora Môr y Canoldir a fydd, ar ôl hynny, yn cael ei gartrefu yn ein Tŷ Gwydr Mawr eiconig.

Meddai Alex: “Mae gan Hortus Botanicus Amsterdam (HBA) gasgliadau Penrhyn  a gasglwyd yn wyllt anhygoel a ni yw’r ardd gyntaf yn y DU ar ôl Brexit i fynd trwy’r  rheoliadau newydd i symud deunydd planhigion dros y ffin newydd hon.”

Rydym ni fel Gardd Fotaneg yn gweithio ar y cyd yn y rhwydwaith gerddi botaneg i arddangos planhigion, eu hastudio a helpu yn eu cadwraeth.

Agorwyd y cyfleuster cwarantin newydd hwn gan Margo a Martin dau wirfoddolwr garddwriaethol sydd wedi bod yma am lawer of flynyddoedd. Diolch i’r ddau am wneud hyn!