Mae gan Samia yrfa mewn arweinyddiaeth yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol am dros 30 mlynedd. Cynhaliodd rolau arweinyddiaeth mewn sefydliadau HIV/AIDS a chanser. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel ymgynghorydd arwain gydag elusennau gwahanol , gan gynnig hyfforddiant ac arweiniad i Brif Weithredwyr ac arweinwyr lefel uchel. Mae hi’n ymddiddori mewn gwella arferion rheoli, amrywiaeth a chynhwysiant, cyfrifoldeb cymdeithasol, gweithio gyda gwirfoddolwyr, cynaliadwyedd a chreu amgylchedd gwaith iach.
Trwy gydol ei bywyd mae gan Samia ymrwymiad i natur, cadwraeth a bioamrywiaeth ac mae hi’n hynod gyffrous am y cyfle i gyfrannu at Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.