Tracy Hawthorne

Rhelowr Adnoddau Dynol

Rheolwr Adnoddau Dynol

Ymunodd Tracy Hawthorne â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Medi 2026 fel Arweinydd Dros Dro ar gyfer Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Mae gan Tracy radd LLM mewn Cyfraith Cyflogaeth ac MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol, ac mae hi’n Gymrawd o’r Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD). Mae hi’n dod â chyfoeth o brofiad ym maes Adnoddau Dynol a gafwyd yn ystod gyrfa nodedig ym maes plismona; gweithiodd ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol cyn ymddeol o swyddi gyda’r Gwasanaeth Heddlu, y Swyddfa Gartref a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Dyma swydd Adnoddau Dynol gyntaf Tracy yn y sector elusennol, ac mae hi’n frwdfrydig ynghylch y cyfleoedd a gynigir gan amgylchedd unigryw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae hi’n edrych ymlaen at weithio gyda staff, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr undebau llafur i ddatblygu agenda’r Ardd o ran ei phobl.