Hwyrach fod Gaynor yn fwy adnabyddus fel un o Gyfarwyddwyr Sylfaenol yr Eden Project yng Nghernyw, lle ymunodd ym 1977 fel Cyfarwyddwr Cyllid. Yn y swydd honno roedd yn rhannol gyfrifol am sicrhau’r £140 miliwn angenrheidiol i drawsnewid hen waith clai segur yn un o atyniadau enwocaf y byd i ymwelwyr. Prin 3 blynedd yn ddiweddarach cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Rheoli, ac yn ystod ei 15 mlynedd wrth y llyw enillodd y tîm nifer o wobrau, gan gynnwys Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn yn y DG lawer gwaith.
Bu Gaynor wedyn yn Gyfarwyddwr Rhaglenni Cyhoeddus yng Ngerddi Botaneg Brenhinol lle bu’n arwain gwaith i adnewyddu’r brand yn llwyr, sefydlu’r ŵyl Goleuadau’r Gaeaf sydd nawr mor eiconig, a bu hefyd yn goruchwylio’r twf sylweddol yn nifer yr ymwelwyr. Yn fwy diweddar mae wedi cadeirio The Wave Group Ltd gan arwain ei atyniad arloesol mewn dŵr mewnol drwy ei waith adeiladu cyfalaf, heriau pandemig Covid-19, a’i agoriad yn llwyddiannus i’r cyhoedd.
Fel cyfrifydd siartredig wedi ei hyfforddi gyda Deloitte a KPMG, mae Gaynor yn ychwanegu cyfuniad o drylwyredd ariannol a gweledigaeth greadigol at ei swyddi ar y bwrdd. Caiff ei chydnabod yn Rhestr Grym Arweinyddiaeth Merched 2024 gan Management Today fel un o’r gweithredwyr merched mwyaf effeithiol yn y DG. Mae Gaynor yn llefarydd ymroddedig dros fwy o gynrychiolaeth gan ferched ar lefel bwrdd, a swyddogaeth cynaliadwyedd, treftadaeth natur a mynediad i addysg mewn cymdeithas.
Mae ei phenodi’n Gadeirydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dod â phrofiad eithriadol o sefydliadau botanegol ac amgylcheddol, llywodraethiant prosiectau cymhleth, ac ymgysylltu cyhoeddus i’r Ardd ar adeg hanfodol yn ei datblygiad.
“Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyrchfan gwirioneddol arbennig – lle perffaith i’r teulu ar ddiwrnod allan gyda’i gerddi gwych a helaeth a’i gwarchodfa natur gyfleus. Mae’n dangos arbenigedd mewn gwyddoniaeth, addysg a garddwriaeth, ac yn rhan hanfodol wrth helpu Cymru i barhau ar flaen y gad wrth gysylltu pobl â phwysigrwydd natur yn ein bywydau bob dydd. Rwyf wrth fy modd yn cael fy mhenodi’n Gadeirydd y Bwrdd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm wrth inni gychwyn ar y bennod gyffrous nesaf.”
– Gaynor Coley, darpar Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr