Mae Elizabeth Whittle yn hanesydd garddio.
Mae ganddi wybodaeth eang, a phrofiad helaeth, o barciau a gerddi hanesyddol Cymru; mae hi newydd ymddiswyddo o’i swydd gyda Llywodraeth Cymru (Cadw) fel Arolygydd Parciau, Gerddi a Thirweddau Hanesyddol, swydd a fu’n ei gwneud am 21 o flynyddoedd.
Mae hi wedi ysgrifennu llyfr a sawl erthygl ar barciau a gerddi hanesydddol Cymru.
Mae hi’n Llywydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ar hyn o bryd, ac yn Ymddiriedolwr i Ardd Nelson yn Nhrefynwy.