Dr Lucy Sutherland

Cyfarwyddwraig

Cyfarwyddwr

Dechreuodd Dr Lucy Sutherland yn rôl Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Hydref 2022. Gyda gradd Meistr ymchwil a PhD mewn rheoli a pholisi gerddi botaneg, mae Lucy yn frwd dros y modd y mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn darparu gwerth i’r cyhoedd ar ran Cymru ac yn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a’r argyfwng hinsawdd a natur.

Ers ymuno â’r Ardd, mae Lucy wedi arwain y gwaith o adnewyddu Strategaeth yr Ardd, gan ganolbwyntio ar gynyddu rôl ac effaith yr Ardd fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r effaith hon yn cynnwys mentrau sy’n buddsoddi mewn rhaglenni addysg STEM a rhaglenni addysg natur ar gyfer ysgolion, a chyflwyno menter allgymorth yr Ardd, Pob Plentyn yng Nghymru, er budd cymunedau ynysig; lansio Gwyddoniaeth Dinasyddion BioBlitz a gofalu bod yna ffocws parhaus ar weithgareddau gwyddoniaeth ac ymchwil sy’n sicrhau dyfodol cadwraeth natur Cymru.

A hithau’n weithredwr profiadol, mae gan Lucy wybodaeth fyd-eang am erddi botaneg, ynghyd â hanes cryf o adeiladu partneriaethau ac arwain ymgysylltiad hynod effeithiol â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd a’r sectorau nid-er-elw. Mae Lucy yn Aelod o’r Bwrdd Cynghori Annibynnol ar gyfer Canolfan Economi Werdd Cynhyrchion Naturiol BioHUB, Prifysgol Abertawe; yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Ymgynghorol Wakehurst, Gerddi Botaneg Brenhinol Kew; ac yn Aelod o Banel Cynghori Rhanbarthol Dyfed Heneb (Yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Archaeoleg Cymru).