400 miliwn o flynyddoedd oed
Y creigiau hyn oedd y rhai cyntaf yng Nghymru a ffurfiwyd ar wyneb y tir. Y tywodfeini hyn yw sail Bannau Brycheiniog a chafodd yr haenau o dywod eu dyddodi’n wreiddiol gan afonydd mawr a lifai ar draws gwastadeddau eang yn gorwedd i’r de o gadwyn o fynyddoedd mawr. Nofiai pysgod cyntefig yn yr afonydd ac ar y tir tyfai planhigion bach yn debyg i redyn syml.
Cyfoeth Botanegol
Creigiau gwaddod tebyg sy’n sail i’r Ardd Fotaneg. Mae’r priddoedd sy’n datblygu ar y Tywodfaen Coch Defonaidd yn amaethyddol gyfoethog ac yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las (tua 10 munud yn unig o fan hyn), ardal a gaiff ei ffermio’n organig, mae’r dolydd sy’n gyforiog o flodau gwyllt yn cael eu pori gan fridiau o wartheg a defaid Cymreig.
Paradwys i’r Is Blanhigion
Mae malurion a lleithder yn crynhoi mewn agennau yn y creigiau mandyllog hyn. Mae hyn, ynghyd â’u cemeg gymhleth, wedi caniatáu i 37 o wahanol gennau yn ogystal â nifer o fwsoglau dyfu ar y meini hyn. Mae rhai o’r cennau gwastad a chrystiog hyn dros 15cm o led, a gall rhai ohonynt fod dros 100 oed.
O ble y daeth y meini hyn? Chwarel Heol Senni, Powys