Saets Gwyn

Salvia apiana

Defnyddiodd llawer o bobl o’r llwythau brodorol yng Nghaliffornia hadau saets gwyn i lanhau a gwella eu llygaid tost.

Roedd un dechneg ddychrynllyd yn cynnwys rhoi’r hadau o dan yr amrannau cyn cysgu. Yn ystod y nos, byddai’r hadau’n chwyddo ac yn troi’n feddal. Roedd yr hadau’n casglu unrhyw ddeunydd estron wrth i’r person gysgu ac yn cael eu tynnu o’r llygaid yn y bore!

Am gael gwybod mwy?

  • Roedd menywod llwyth Cahuilla yn yfed trwyth ohono ar ôl geni baban er mwyn helpu i wella y tu mewn i’r corff.
  • Roedd llwyth Diegueño yn defnyddio’r dail i wneud siampŵ gwallt sy’n ei atal rhag britho.
  • Câi dail wedi’u pwnio eu rhwbio ar y corff fel diaroglydd, yn enwedig cyn hela.