Pupur Du

[:en]Piper nigrum[:]

Mae pawb yn gyfarwydd â blas pupur du ond wyddoch chi sut un yw’r planhigyn?

Gwinwydden yw hi sy’n cynhyrchu gwreiddiau byrion wrth iddi ddringo tua’r haul.

Roedd pupur unwaith mor werthfawr fe’i ddefnyddiwyd fel arian parod. Mae’r ymadrodd ‘rhent grawn pupur’, ‘peppercorn rent’, yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw, er ei fod yn golygu erbyn hyn bron ‘yn rhad ac am ddim’.