Mae’r Protea yn rhywogaeth o blanhigyn sy’n tyfu yn Ne Affrica yn unig. Mae llawer ohonyn nhw yn gain ac yn brydferth iawn yn eu blodau, ac maen nhw’n awr yn gnwd pwysig ar gyfer y diwydiant gwerthu blodau yn rhyngwladol.
Y Protea Brenhinol yw blodyn cenedlaethol Gweriniaeth De Affrica. Ry’n ni’n ffodus yn yr Ardd i gael enghreifftiau aeddfed rhyfeddol o’r blodyn hwn yn ein meddiant, sy’n blodeuo’n rheolaidd yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Mae’r blodau godigog hyn yn eu hanterth o fis Mawrth ymlaen.