Mae pinwydden Chile i’w gweld ledled Cymru, a hynny mewn gerddi, parciau a mynwentydd.
Gellir olrhain y dalaf a’r fwyaf aeddfed yn ôl i’r rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Archibald Menzies, a oedd yn ymarfer meddygaeth yng Nghaernarfon cyn hwylio ar HMS Discovery. Mae’r sbesimenau mawreddog hyn yn frodorol i fynyddoedd yr Andes yn Ariannin a Chile. A hwythau ar uchder o tua 1,800 metr, gan olygu eu bod yn sefyll uwchben y coedlin, mae’r sbesimenau godidog hyn yn symbolaidd o fflora mynyddig y rhanbarth. Fodd bynnag, er eu bod wedi addasu’n dda i’r hinsawdd gyfnewidiol, gydag eira trwm, ffrwydradau folcanig a thirlithriadau yn risgiau hollbresennol, gweithgarwch dynol sy’n bygwth eu bodolaeth yn y gwyllt. Mae tanau, pori da byw, a’r ffaith bod coedwigo masnachol yn ennill tir, i gyd yn fygythiadau gwirioneddol i’w goroesiad.
Yma yn yr Ardd Fotaneg rydym wedi partneru â’r Rhaglen Cadwraeth Conwydd Ryngwladol i ddarparu lloches. Gallwch weld llawer o sbesimenau yn yr Ardd Goed, pob un wedi’i dyfu o hadyn ac yn cynrychioli poblogaethau penodol. Mae presenoldeb amrywiad genynnol o’r fath yn bwysig iawn ar gyfer cadwraeth.