Nid yw pabi Califfornia yn cynnwys unrhyw un o’r sylweddau a ganfyddir yn y pabi opiwm, er i’r ddau ohonynt berthyn i’r un teulu. Fodd bynnag, mae Americanwyr Brodorol traddodiadol yn defnyddio ei ddail fel tawelydd o hyd.
Am gael gwybod mwy?
- Roedd yr ymsefydlwyr cynnar o Sbaen yn galw’r planhigyn hwn yn copa del ora (cwpanaid o aur) yn dilyn y chwedl bod y petalau oren yn troi’n aur, ac yn llenwi’r pridd â’r metel gwerthfawr hwnnw.
- Roedd yr Indiaid Costanoaidd yn rhwbio’r blodau yn eu gwallt i ladd llau. Roedd Indiaid Mendocino yn arfer defnyddio powltis o wreiddiau ffres i leddfu’r ddannoedd.
- Roedd sawl llwyth yn berwi’r planhigyn, neu’n ei rostio ar gerrig poeth, i’w fwyta fel llysieuyn. Cafodd y paill hefyd ei ddefnyddio fel cosmetig.