Arferai pobl Zulu De Affrica ddefnyddio’r mynawyd y bugail hwn i drin problemau’r ysgyfaint, a chyn dyfodiad gwrthfiotigau, defnyddiwyd gwreiddiau’r planhigyn i drin cleifion twbercwlosis yn y DU.

Mae i’r blodyn lliw coch dwys, tebyg i liw gwaed.
Mae’n blodeuo yn adran De Affrica y Tŷ Gwydr Mawr, lle mae gennym sawl rhywogaeth Pelargonium arall.