Ar hyd Y Rhodfa fe ddowch chi o hyd i goeden anhygoel yr olwg sy’n frodorol i Tsieina, sef y fasarnen rhisgl papur, Acer griseum.
Mae ei rhisgl o liw copor yn pilio mewn cyrliau mawrion sy’n aros ar y goeden yn hytrach na disgyn i’r llawr. Mae’n cyferbynnu’n hyfryd â’i rhisgl mewnol sy’n frowngoch, a’i dail sy’n troi’n lliw oren-goch yn yr hydref.