Glöyn byw cyffredin o faint canolig yw Llwyd y Ddôl, ac yn yr haf gellir ei weld yn hedfan dros blanhigion yn eithaf agos at y ddaear, a hynny mewn ambell amgylchedd gwahanol, er enghraifft gerddi a glaswelltir.
Mae’r benywod yn defnyddio sawl rhywogaeth o laswellt i ddodwy eu hwyau arnynt.
Gellir yn hawdd ddrysu rhyngddo a Gweirlöyn y Perthi, sydd â mwy o liw oren ar yr adenydd.
Cadwch eich llygad ar agor amdanynt yn nolydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.