Llaethysgallen

Sonchus fruiticosus

Mae’r casgliad anarferol o fawr o rywogaethau llaethysgallen sydd i’w cael ar Ynysoedd y Caneri wedi’u disgrifio fel cistiau meddygol oherwydd yr amrywiaeth o sylweddau cemegol gweithredol sydd ynddynt.

Mae hyn wedi arwain at restr hir o ddefnyddiau meddyginiaethol: gwrthlidiol, ymlacio’r cyhyrau, lleddfu poen, antiseptig – maent yn dda ar gyfer trin cerrig ar yr arennau, twymyn, clefyd y gwair, pwysedd gwaed uchel ac ati.

Am gael gwybod mwy?

  • Caiff trwyth o’r dail, blodau neu wreiddiau ffres wedi’u malu ei roi yn syth ar y croen fel powltis.
  • Mae cyfansoddyn wedi’i ganfod sy’n unigryw i laethysgall Ynysoedd y Caneri. Credir y gallai hyn ysgogi’r system imiwnedd a thrin meigryn.
  • Mae yna gyfansoddion eraill a allai fod â nodweddion gwrthfiotig cryf.