Mae’r ffwng rhithiol hwn yn dueddol o ymddangos ar ein dôl sy’n gyforiog o gapiau cŵyr yng Ngwarchodfa Natur Waun Las. Mae e hefyd i’w weld ar hen lawntiau sydd heb gael eu hail-hadu neu eu boddi mewn gwrtaith, ffwngladdwyr na lladdwyr mwsogl. Os oes hen lawnt gennych ac ry’ch chi’n gweld y math hwn o ffwng, ceisiwch roi amser iddo ryddhau ei sborau cyn i chi ei dorri.
Mae Gwerthyd Wen yn un yn unig o deulu o ffyngau rhyfedd a lliwgar y teulu Clavariaceae sy’n tyfu yn ein coetir a’n dolydd.