Mae’r rhywogaeth hon o wenyn unig sy’n torri dail yn nythu mewn coesynnau gwag, tyllau mewn pren a hyd yn oed gwestai gwenyn unig, ac mae’n hedfan yn yr haf.
Mae’r benywod yn leinio eu celloedd nythu â darnau o ddail y maent yn eu torri o blanhigion ac yn eu cario i’r nyth gan ddefnyddio eu mandiblau.
Mae’r benywod hefyd yn casglu paill ar frwsh paill o dan yr abdomen, o’r enw ysgubell. Mae’n hawdd adnabod gwrywod y rhywogaeth hon oherwydd y rhannau o flew melyn ar eu coesau blaen.
Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt yn yr Ardd Wyllt ac yn mynd i mewn ac allan o’r gwesty gwenyn unig yn yr Ardd Tyfu’r Dyfodol.