327 miliwn o flynyddoedd oed
Tua 325 miliwn o flynyddoedd yn ôl ymestynnai cadwyn o fynyddoedd o ganolbarth Cymru hyd Wlad Belg. Ysgubai’r afonydd a lifai o’r mynyddoedd hyn lwythi o waddodion tua’r môr. Y gwaddodion cyntaf i ymgasglu ar hyd y glannau oedd banciau o gerigos ac yna, yn ddiweddarach, fanciau o dywod. Esgorodd cymysgedd o’r cerigos a’r tywod ar amryfaen (‘Grut Melinfaen’). Mae’r blociau gwyn yn y gwely blodau yn enghreifftiau o’r graig honno.
Yn wydn ac yn ddisglair
Mae’r tywodfaen hwn yn weledol drawiadol gan ei fod yn llawn gronynnau tywod cwarts gwyn. Mae cwarts yn wydn iawn, i’r graddau fod crisialau a darnau ohono yn cael eu hailgylchu’n barhaus.
Purdeb cwarts
Mae’r silica mewn cwarts mor bur fel y gall wrthsefyll tymereddau uchel iawn. O ganlyniad, câi’r Grut Melinfaen yn ne Cymru ei gloddio ar raddfa fawr er mwyn cynhyrchu ohono ffenestri ffwrneisi a briciau tân ar gyfer diwydiant dur de Cymru.
O ble y daeth y meini hyn? Chwarel Carmel, Sir Gaerfyrddin