Eithin yr Ynysoedd Dedwydd

[:en]Genista stenopetala [:cy]Genista stenopetala[:]

Caiff tua thri neu bedwar o’r deg o rywogaethau eithin, Genista, a geir ar yr Ynysoedd Dedwydd eu defnyddio at ddibenion meddygol.

O blith y rhywogaethau hynny, mae Genista stenopetala ychydig yn narcotig ac mae wedi’i ddefnyddio cyn hyn fel math o dawelydd.

Am gael gwybod mwy?

Caiff dail, blodau, hadau a changhennau eu cymysgu â’i gilydd OND dylid cofio bod hwn yn blanhigyn meddygol a all fod yn beryglus iawn, gan ei fod yn gallu effeithio ar yr anadl a swyddogaeth y galon. Felly ni ddylid arbrofi heb gyngor meddygol.

Yn ôl y sôn, cafodd Genista canariensis, eithin tebyg iawn, ei gyflwyno yng Ngogledd America lle roedd yr Americanwyr Brodol yn ysmygu’r blodyn sych er mwyn achosi rhywfaint o ewfforia – nid yw’r defnydd hwn wedi’i gofnodi ar yr Ynysoedd Dedwydd.