475 miliwn o flynyddoedd oed
Creigiau Hynafol
Mae y ‘cerrig gleision’ hyn i’w cael ymhlith cerrig estron eraill Côr y Cewri. Maent yn dod o’r Preselau, tua 140 milltir, fel yr hed y frân, o Wastadedd Caersallog. Ai ein cyndeidiau fu’n gyfrifol am eu cludo yno tua 4,500 o flynyddoedd yn ôl, neu a gafodd y meini eu cario yno gan len iâ tua 450,000 o flynyddoedd yn ôl? Mae’n bwnc llosg.
Natur y Garreg Smotiog
Craig igneaidd yw’r dolerit smotiog a ffurfiwyd wrth i ddalennau trwchus o fagma (craig dawdd) gael eu gwthio rhwng haenau o gerrig llaid a llechfeini’r Preselau, ac yna araf oeri a chrisialu. Mae’r smotiau yn gyfuniad o gwarts a ffelsbar gwyn ac mae’n debyg iddynt ymffurfio wrth i’r graig gael ei ‘chogino’, sef ei metamorfforeiddio yn ystod cyfnod o symudiadau daear.
Cen Iachusol
Mae 22 o wahanol rywogaethau o gennau yn tyfu ar wyneb garw’r graig hon. Defnyddir un o’r rhain, sef Parmelia saxatilis, i liwio brethyn Harris Tweed yn goch-frown. Ond yn yr Oesoedd Canol fe’i defnyddid hefyd i drin epilepsi, ond dim ond pan oedd y cen yn tyfu ar esgyrn. Roedd yn gweithio ar ei orau, mae’n debyg, pan gafwyd y cen oddi ar benglog gŵr a grogwyd!
O ble y daeth y meini hyn? Oddi ar lethrau dwyreiniol y Preselau, Sir Benfro