475 miliwn o flynyddoedd oed
Clustogau Caled
Rhwng 440 a 490 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd ynysoedd folcanig yn nodweddu’r cefnfor a oedd yn gorchuddio Cymru’r cyfnod Ordofigaidd.
Esgorodd yr echdoriadau folcanig tanfor yn bennaf ar lifau lafa yn llawn magnesiwm a haearn. Wrth i’r tafodau o lafa chwilboeth ddod i gysylltiad â dŵr oer y môr ymgaledodd eu harwynebau gan ffurfio crystyn caled o amgylch craidd o lafa hylifol. Yna, wrth i’r tafodau hollti, cafodd talpiau o lafa hyblyg ar ffurf clustogau eu pentyrru ar ben ei gilydd. Wedi i’r clustogau oeri, ffurfiwyd clogfeini fel y rheiny ar y dde.
Planhigion Prin
Mae rhai o blanhigion mynydd mwyaf prin Cymru yn tyfu yn y priddoedd lled asidig sy’n datblygu ar y lafâu hyn. Yn yr ardal ‘Diogelu Planhigion Cymru’, heb fod yn bell o’r bwyty yn yr hen stablau, mae modd gweld arddangosfa wych o’r planhigion hynny.
Yn rhyfedd iawn
Mae cen od iawn yn tyfu ar y meini hyn. Mae’r rhan fwyaf o gennau yn gyfuniad o ffwng ac alga neu facteria. Ond mae’r cen pinc hwn (Placopsis lambii) yn cynnwys y tair ffurf ar fywyd o fewn un corff, ac mae’n cynhyrchu lympiau coch rhyfedd eu golwg, wrth ffrwytho.
O ble y daeth y clogfeini hyn? Chwarel Llanfair-ym-Muallt, Powys