Creigiau Cyn-Gambriaidd

615 miliwn o flynyddoedd oed

Fe’u ffurfiwyd cyn ymddangosiad planhigion

Ffurfiwyd y gwenithfaen 615 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan gafodd magma hylifol, poeth ei wthio i ganol creigiau a grëwyd 1.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, cafodd y gwenithfaen ei gywasgu a’i altro yn ystod cyfnodau o symudiadau daear.

Mae’r graig wydn hon yn gyfuniad o grisialau disglair o gwarts, mica a ffelsbar. Craciau yw’r llinellau duon wedi’u llenwi â chrisialau du.

Lecanora muralis

Wrth fodd Planhigion Heddiw

Mae gwenithfeini Cyn-Gambriaidd yn esgor ar briddoedd lled asidig sy’n llawn maetholion, delfrydol ar gyfer planhigion fel y cor-rosyn rhuddfannog (Tuberaria guttata), blodyn sirol Môn. Mae arwynebau garw’r meini wrth fodd cennau hefyd. Mae 25 o wahanol rywogaethau ohonynt yn ffynnu ar y meini hyn. Mae un ohonynt, sef Lecanora muralis, yn gwrthsefyll llygredd, yn tyfu ar balmentydd concrit ac yn ymdebygu i gwm cnoi!

O ble y daeth y gwenithfaen hwn? Chwarel Gwalchmai, Ynys Môn