510 miliwn o flynyddoedd oed
Llechfaen Byd-enwog Cymru
Cymylau dudew o ddŵr mwdlyd oedd y blociau hyn o lechfaen Cymru yn wreiddiol. Llifai’r cymylau tyrfol hyn i lawr y llethrau cyfandirol gan raddol ymgasglu’n haenau o laid ar wely’r môr. Gallwch weld olion yr haenau yn y creigiau hyn.
Ymgaledodd yr haenau o laid yn gerrig llaid a chafodd y rhain ynghyd â chreigiau eraill eu cywasgu gan ffurfio cadwyn o fynyddoedd mawr tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wrth i’r cerrig llaid gael eu cywasgu gorfodwyd y mwynau clai ynddynt i aildyfu ar ongl sgwâr i gyfeiriad y gwasgedd, a dyna pam y mae modd hollti llechfaen yn llechi tenau, cryf.
Mae llechi Cymru wedi cael eu defnyddio i doi adeiladau ledled y byd, ond yn y Tŷ Gwydr Mawr slabiau o lechfaen sy’n ffurfio’r llawr. Presenoldeb manganîs a haearn sy’n bennaf cyfrifol am liw porffor hyfryd y llechfaen hwn.
Ydych chi’n clywed arogl?
Fedrwch chi glywed arogl mwsglyd y cen (Evernia prunastri) sy’n tyfu yma? Fe’i defnyddir yn helaeth yn y diwydiant persawr. Mae cennau fel hwn, ynghyd â mwsoglau, yn helpu i ddarnio llechfaen a’i droi’n bridd asidig. Yn Eryri, mae bysedd y cŵn (Digitalis purpurea) i’w gweld yn aml yn tyfu yn y priddoedd tenau ar rai o’r hen domennydd rwbel.
O ble y daeth y meini hyn? Chwarel y Penrhyn, Gwynedd