430 miliwn o flynyddoedd oed
Ffurfiwyd y creigiau hyn pan lifodd cymylau tyrfol o gerigos, tywod, silt a llaid i lawr y llethrau cyfandirol ac yna ymgasglu’n haenau ar wely’r môr wrth i nerth y cerhyntau, a gariai’r gwaddodion, wanhau. Y trolifau, a achoswyd gan y cerhyntau cryf, a greodd y nodweddion ar ffurf y llythyren V sydd bellach i’w gweld ar arwynebau’r creigiau haenog. Mae pen pigfain y V yn wynebu’n groes i gyfeiriad llif y cerrynt a’i creodd.
Baw adar
Dim ond ambell gen sy’n tyfu ar y graig waddod hon, sy’n llawn o ronynnau cwarts.
Mae Xanthoria parietina, cen euraidd ei liw, yn nodedig. Cemegyn sy’n gyfrifol am ei liw melyn ac mae’n gweithredu fel eli gwrth-haul ar ran yr alga sy’n byw oddi mewn iddo. Pan mae’n tyfu mewn mannau cysgodol, mae’n llwytach ei liw. Mae’n gyffredin ar glogwyni’r môr, adeiladau fferm a choed mewn trefi, sef mannau lle mae digonedd o nitrogen. Ond pam yn y mannau hynny? Mae adar yn hoffi clwydo yn y fath leoedd ac mae’r cen yn bwydo ar eu baw.
O ble y daeth y meini hyn? Chwarel Ystradmeurig, Ceredigion