Defnyddiwyd sudd coch llwyn y ddraig gan y Gwanches, brodorion gwreiddiol Ynysoedd y Caneri, i fymïo’r meirw cyn eu claddu mewn ogofâu.
Oherwydd y gred bod y sylwedd anarferol hwn yn cynnwys amryw nodweddion meddyginiaethol a hudol, daeth yn un o’r prif blanhigion i gael ei allforio i farchnadoedd meddyginiaethol Ewrop ac Affrica.
Am gael gwybod mwy?
• Heddiw, defnyddir gwaed y ddraig i gynhyrchu cŵyr dodrefn caled a sgleiniog. Yn ôl chwedl, hwn oedd un o gynhwysion hud y farnais a ddefnyddiwyd gan Stradivarius i roi’r tôn arbennig i’w ffidilau.
• Defnyddiwyd y pigment coch hefyd fel cosmetig.
• Roedd yn rhan o’r cymysgeddau meddyginiaethol cymhleth o’r Oesoedd Canol a ddefnyddiwyd yn ôl y sôn i gydbwyso’r pedwar gwlybwr a oedd yn creu’r corff dynol yn ôl pob tebyg.
• Cymeroedd ein coed ni yma dros ddeng mlynedd cyn iddynt gynhyrchu’r blodau hyfryd o bersawrus cyntaf.