Cerddinen y Darren Fach

Sorbus leyana

Tua hanner ffordd i fyny rhan uchaf y Rhodfa, fe ddewch o hyd i goeden fwyaf prin Cymru – Sorbus leyana, Cerddinen y Darren Fach. Dim ond 17 ohonynt sydd yn y gwyllt, pob un ohonynt yn glynu wrth ochrau clogwyni calchfaen serth ym Mannau Brycheiniog. Faint ohonynt oedd yn arfer bodoli? Nid oes unrhyw un yn gwybod. Dim ond yn 1896 y darganfuwyd y goeden hon ac ni chafodd ei henwi tan 1934.

Mae gan yr Ardd gasgliad enfawr o goed cerddin gwynion, Sorbus, ac rydym yn gweithio i amddiffyn rhywogaeth sy’n frodorol i’r DU.

O fewn genws y gerddinen wen, bydd rhywogaethau yn cynhyrchu hadau heb gael rhyw, sy’n golygu bod y disgynyddion yn glonau o’r rhieni.  Weithiau bydd atgynhyrchiad rhywiol yn digwydd efo unigolion eraill, a rhwng rhywogaethau.  Mae’r disgynyddion newydd cymysgryw hyn yn cael eu disgrifio fel rhywogaeth ar wahân, efo ecoleg a chynefinoedd gwahanol.  Maent yn aml mewn niferoedd isel, ac mae llawer ohonynt yn brin. Mae Gardd yn astudio ecoleg a geneteg y coed hyn er mwyn darganfod mwy am sut mae’r rhywogaethau newydd yma yn esblygu a phennu’r ffordd orau o warchod y grwpiau cymhleth hyn.

Hamston, T.J., de Vere, N., King, R.A., Pellicer, J., Fay, M.F., Cresswell, J.E., Stevens, J.R., 2018. Apomixis and hybridization drives reticulate evolution and phyletic differentiation in Sorbus L.: Implications for conservation. Frontiers in Plant Science 871, 1–13.

 

  • Coedfa

    Gellir dadlau mai’r Coedfa yw’r arddangosfa fwyaf uchelgeisiol yn yr Ardd