Calchfaen Carbonifferaidd

330 miliwn o flynyddoedd oed

Yma, ac ychydig ymhellach i lawr y rhiw, ceir dau fath gwahanol o galchfaen a ddaw o’r un chwareli yng Nghlwyd.

Mae hwn yn galchfaen mwdlyd iawn ac mae nifer o gregyn ffosil i’w gweld ar wyneb y graig. Mae ei gwedd frith i’w phriodoli i’r anifeiliaid a dyrchai i mewn i’r gwaddod meddal a’i gorddi, wrth iddynt chwilio am fwyd a lloches. Y ffosil mwyaf yw cragen fôr sy’n ymdebygu i gragen fylchog, er nad yw’n perthyn iddi.

Craig lefn

Ymhellach i lawr y rhiw, mae’r calchfeini eraill yn llwyd olau, yn llyfn ac yn cynnwys yn bennaf öolitau, sef gronynnau sfferaidd bychain a ffurfiwyd wrth i haenau consentrig o galsiwm carbonad ymgasglu o amgylch darnau bach o gregyn neu ronynnau o dywod.

Pridd Arbennig

Mae dŵr asidig a chennau yn meddu ar y gallu i hydoddi calchfaen. Dros gyfnod hir mae’r graig hydawdd, maetholion o gennau marw, a llwch a chwythwyd gan y gwynt wedi cyfrannu at ffurfiant pridd calchaidd. Mae’r fath bridd wrth fodd ffermwyr ac un o flodau gwyllt prinnaf Cymru, sef briwlys y calch (Stachys alpina), blodyn sirol Sir Ddinbych.

 

O ble y daeth y meini hyn? Chwarel Mynydd Helygain a Chwarel y Gogledd-orllewin, Clwyd