330 miliwn o flynyddoedd oed
Mae’r calchfeini hyn yn cynnwys ffosilau nifer o anifeiliaid darfodedig, creaduriaid a drigai mewn moroedd bas, cynnes a oedd yn cynnwys digonedd o galch ar gyfer adeiladu eu cregyn ohono. Yn ystod y cyfnod pan oedd y creigiau hyn yn ymffurfio roedd cadwyn o fynyddoedd mawr yn ymestyn ar draws canolbarth Cymru, ac i’r gogledd a’r de ohonyn roedd basnau morol. Ymffurfiodd y creigiau hyn yn y môr deheuol ac mae crychnodau, tebyg i’r rheini a welir ar draethau heddiw, i’w gweld ar arwynebau rhai o’r meini.
Ei gloddio ar gyfer Dur
Oherwydd ei fod yn cynnwys llawer o fagnesiwm, gelwir y math yma o galchfaen yn ddolomit. Wedi’i falu a’i ychwanegu at fwyn haearn mae dolomit yn gwneud dur yn burach, a dyna pam y cafodd cymaint ohono ei gloddio yn ne Cymru ar gyfer y diwydiant dur.
Cen Cuddiedig
Efallai eich bod chi wedi sylwi nad oes llawer o wahanol gennau i’w cael ar y graig hon. Y gwir yw, nad oes ynddi lawer o faetholion ac ni all y rhan fwyaf o’r cennau oddef dognau sylweddol o galch. Ond mae rhai cennau’n byw o dan yr wyneb ac fe’u gwelir dim ond pan maent yn cynhyrchu cyrff hadol.
O ble y daeth y meini hyn? Chwarel Corneli, Y Pîl, Morgannwg Ganol