Mae’r Gacynen y Coed yn gacynen gyffredin sydd i’w gweld mewn amrywiaeth o amgylcheddau yn y gwanwyn a’r haf.
Mae’n nythu’n uchel i fyny, a bydd hyd yn oed yn nythu mewn blychau adar!
Gellir ei hadnabod wrth ei thoracs oren, ei habdomen du a’i chynffon wen. Mae’r breninesau, y gweithwyr a’r gwrywod i gyd yn debyg iawn eu hymddangosiad, felly mae’n anodd gwahaniaethu rhyngddynt.
Mae hon yn rhywogaeth gymharol newydd yn y DU gan mai dim ond yn 2001 y cyrhaeddodd yma, ond mae wedi dod yn gyffredin iawn!
Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt ar hyd a lled yr Ardd.