Boldo

Peumus boldus

Mae’r llwyn tal ac aromatig  hwn yn tyfu ar lethrau mynyddoedd Chile a Pheriw. Mae’r Arawcaniaid yng nghanolbarth Chile wedi hen arfer â defnyddio ei ddail, sy’n arogli o lemwn, fel tonig. Cafodd ei gyflwyno yn Ewrop yn y 19eg ganrif lle caiff ei ddefnyddio o hyd gan lysieuwyr i drin problemau gyda’r iau a cherrig bustl.

  • Caiff boldo ei ddefnyddio’n aml fel cynhwysyn mewn te colli pwysau llysieuol.
  • Caiff boldo ei dyfu ledled y byd i gyflenwi’r farchnad meddyginiaethau llysieuol.
  • Mae cwpanaid o de boldo yn boblogaidd heddiw yn Chile fel symbylydd ysgafn.
  • Yn ôl y sôn, cafodd ei ddefnydd meddyginiaethol ei ganfod ar hap. Sylwodd bugail o Chile fod ei ddefaid yn iachach pan oeddent yn pori ar gaeau lle roedd boldo’n tyfu.