Tormaen Iwerddon

Saxifraga rosacea subsp. rosacea

Yn 1962 darganfu’r botanegwr Dick Roberts flaguryn bychan yng Nghwm Idwal.

Anfonodd y blaguryn at Ardd Fotaneg Ness a chadarnhawyd mai tormaen Iwerddon oedd y planhigyn. Ni welwyd y rhywogaeth hon o blanhigyn yn unman yn Eryri na chynt na wedi hynny.

Yn ffodus llwyddodd botanegwr arall, Morris Morris, i dyfu toriadau o’r blaguryn hwn a’i rhoi i’r Ardd. Rydym bellach wedi cymryd  samplau DNA er mwyn gweld pa mor agos yw’r berthynas rhyngddo a thormaen Iwerddon sy’n dal i dyfu yn Iwerddon.

Aethom ati i ddefnyddio DNA i weld pa mor agos y mae’n perthyn i Dormaen Iwerddon sy’n dal i dyfu yn Iwerddon. Trwy ddefnyddio dadansoddiad ffylogenetig, amlygwyd cymhlethdod tacsonomaidd Tormaen y DU, ac ategwyd yr angen i gadw’r rhywogaethau hyn ar wahân wrth eu hamaethu er mwyn osgoi croesrywedd. Gall lefelau amrywiaeth enetig rhywogaethau yn y grŵp hwn fod yn bwysig i’w goroesiad a’u gallu i ymdopi ag amodau newidiol.