Sylwch ar flodau’r planhigyn rhyfedd hwn o Awstralia bell. Ydyn nhw’n eich atgoffa o rywbeth?
Pawen? Pawen cangarŵ, tybed?
Does dim dirgelwch am ei enw, felly.
Peillir Pawennau’r Cangarŵ gan adar. Wrth iddyn nhw glwydo ar goesyn y planhigyn er mwyn trochi’u pennau yn y blodyn llawn neithdar, mae eu pwysau yn tynnu’r brigellau sy’n dwyn y paill i lawr ar eu pennau.