Masarnen Siapan

Acer palmatum ‘Atropurpureum’

Mae dail y rhan fwyaf o amrywiaethau’r fasarnen yn troi’n goch ac yn oren godidog bob hydref.

Masarnen Siapan yw’r hyfrytaf o’r masarn efallai, ac mae gennym ddwy esiampl ardderchog ym mhen ucha Gardd Wallace.  Mae’r rhain yn gyltifarau ‘Atropurpureum’, sy’n nodedig am eu lliwiau hydrefol coch fel gwin.