Yr Ardd yn cofrestru fel y cyntaf fydol i Gymru

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i dderbyn selnod glôb am gymeradwyaeth am ragoriaeth wyddonol a garddwriaethol

Yng Nghyngres Ewropeaidd ar Erddi Botaneg yn Lisbon, Portiwgal, ar Fai 8, bydd yr atyniad yng Nghaerfyrddin yn un o’r chwech cyntaf yn y byd i ennill achrediad arbennig oddi wrth Botanic Gardens Conservation International (BGCI).

Meddai Huw Francis, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae ansawdd uchel y gwaith garddwriaeth, cadwraeth ac ymchwil yr ydym yn eu hymgymryd yn yr Ardd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac yn gwneud cyfraniad pwysig i ddiogelwch y rhywogaethau mewn perygl, cynefinoedd a systemau eco yng Nghymru ac o amgylch y byd.

“Mae’r achrediad yma’n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad staff yr Ardd dros nifer o flynyddoedd, a phwysigrwydd gerdd botaneg fel canolfannau o ragoriaeth mewn garddwriaeth, ymchwil ac addysg i warchod a hyrwyddo bioamrywiaeth ar gyfer buddion cenedlaethau’r dyfodol.”

Fe wnaeth y Curadur Will Ritchie hefyd groesawu’r newyddion: “Rydym wrth ein bodd i fod yn achrededig fel Gardd Fotaneg BGCI,” meddai.

“Mae hyn yn cydnabod gwaith caled y tîm a’r ymrwymiad i gadwraeth, addysg ac ymchwil ers agor ym mis Mai 2000. Mae pawb sydd ynghlwm â’r Ardd yn falch o’i llwyddiannau fel pencampwr am fioamrywiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol. O gynhyrchu llyfrgell cod-bar DNA cyntaf cenedlaethol i adfywhad coedwig ym Morneo, mae’r Ardd yn parhau i gyflwyno ei hamcanion allweddol, ysbrydoliaeth ac addysg.”

Y gerddi botaneg canlynol yw derbynyddion cyntaf Achrediad Ardd Fotaneg BGCI:

·         Wollongong Botanic Garden, Awstralia

·         Gullele Botanic Garden, Ethiopia

·         Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Deyrnas Unedig

·         Jardín Botánico Universitario, Puebla, Mecsico

·         Huntingdon Library, Art Collections and Botanical Gardens, UD

·         University Botanic Gardens Ljubljana, Slofenia

 

Daw’r acolâd rhyngwladol yma ar adeg pan mae niferoedd ymwelwyr yr Ardd yn codi’n aruthrol – fyny 41 y cant yn y ddwy flynedd ddiwethaf – ac atyniad newydd yr Ardd, Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig, yn barod i’w lansio. Mae aelodau o’r staff hefyd wedi bod yn dathlu cael dau brosiect lluosfiliwn i ddatblygu’r safle 568 erw ymhellach.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Huw Francis: “Daw’r newyddion gwych yma yn dynn wrth sodlau y gorau mewn 17 mlynedd mewn nifer yr ymwelwyr ar gyfer y llynedd ac wrth i’n prosiect Adferiad Regentaidd gwerth £7.2 miliwn fyned ei gyfnod adeiladwaith allweddol. Mae ein prosiect Tyfu’r Dyfodol gwerth £2.3m wedi dechrau eleni hefyd, ac wedi ei anelu at glodfori garddwriaeth Cymreig a hyfforddi pobl ar draws Cymru i dyfu  bwyd eu hun a diogelu peillwyr.”

 

Nodiadau i’r Golygydd:

Bydd Achrediad BGCI yn gwahaniaethu gerddi botaneg oddi wrth y gerddi an-fotaneg ac yn adnabod cyraeddiadau mewn cadwraeth planhigion. Bwriad y cynllun yw codi ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth y gweithgareddau y mae gerddi botaneg yn eu gwneud mor dda i wneuthurwyr polisi a noddwyr.

Gall achrediad arwain at fuddion sylweddol ar gyfer gerddi sy’n cymryd rhan – fel cydnabyddiaeth, adolygiad cymar, creu safonau am ragoriaeth, a nawdd – a bydd yn ymddwyn fel ysgogwr ar gyfer arweinyddiaeth gardd fotaneg. Bydd BGCI yn darparu tri achrediad gwahanol:

 

·         BGCI Botanic Garden Accreditation

·         BGCI Conservation Practitioner Accreditation

·         BGCI Advanced Conservation Practitioner Accreditation

 

Mae BGCI Botanic Garden Accreditation, sydd wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad gyda nifer o erddi aelod BGCI, wedi ei anelu at sefydliadau botanegol sy’n dymuno sefydlu eu safonau fel gerddi botaneg gan lynu wrth safonau cydnabyddedig rhyngwladol. Mae’r BGCI Botanic Garden Accreditation yn asesu ac yn gosod gwerth uchel ar sgiliau unigryw, gwybodaeth a data gerddi botaneg. Mae’r achrediad yma’n agored i aelodau ac eraill nad ydynt yn aelodau o’r BGCI.

http://www.bgci.org/accreditation/the-launch/