Yr Ardd yn Chwilio am Arddwyr Ifainc

 

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lansio cynllun prentisio ar gyfer garddwyr ifainc y dyfodol.

Disgrifiwyd y cynllun newydd, a gyhoeddwyd ar Ddydd Gwener, Mai 15, gan y Curadur, Simon Goodenough, fel “datblygiad arloesol i’r Ardd ac i arddwriaeth yng Nghymru”. Bydd recriwtio yn dechrau’n fuan, a bydd y lleoliadau cyntaf yn dechrau ym Medi 2015. Cyllidir y cynllun gan gefnogwr i’r Ardd.

Meddai Simon: “Mae’r Ardd yn ganolfan ar gyfer rhagoriaeth garddwriaethol, ac mae’r newyddion hyn yn amserol ac yn addas. Cydnabyddir gwerth gyrfa mewn garddwriaeth yn fwy-fwy’r dyddiau hyn, gyda llawer o gyfleoedd a swyddi ar gael. Bydd ein cynllun prentisiaeth yn rhoi hyfforddiant, cymwysterau, a hyder i unigolion dethol ddechrau ar yrfa garddwriaethol. Bydd e hefyd yn helpu llenwi’r angen presennol am sgiliau.”

Bydd y cynllun yn cynnwys rhaglen hyfforddi ddwy flynedd fydd â chyswllt agos â Choleg Sir Gâr, ac yn ddelfrydol yn gweld dau brentis yn cael eu cyflogi bob blwyddyn. Bydd y cynllun yn cynnwys rhyddau’r prentiswyr am ddiwrnod i’w lleoli mewn gweithle, i’w galluogi nhw i ennill cymwysterau cydnabyddedig mewn garddwriaeth, a phrofi gwahanol agweddau o’r diwydiant.”

Mae’r cymwynaswr, Patrick Daniell, wedi bod yn gweithio’n agos â’r Ardd er mwyn sefydlu’r cynllun. Mae Patrick yn edmygu ethos yr Ardd a brwdfrydedd ei staff a’i gwirfoddolwyr. Gobeithia, drwy’r cynllun, y bydd ei ddiddordeb a’r profiad a enillodd yng ngarddwriaeth, a’r gwerth y mae’n rhoi ar hyfforddiant da ac adeiladu hyder, yn cael eu pasio ymlaen i eraill.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig, a gyllidir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mae hi ar agor rhwng 10yb a 6yh, gyda’r mynediad olaf am 5yp.

Y tâl mynediad i’r Ardd yw £9.75 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion, a £4.95 i blant dros 5. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd, a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun newydd hwn neu am unrhyw ddigwyddiad arall yn yr Ardd, galwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk