Mae aelodau staff a gwirfoddolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu cynnydd mawr yn y nifer o ymwelwyr.
Yn y 12 mis o Fawrth 31, mae atyniad fwyfwy poblogaidd Sir Gâr wedi croesawu 161,762 o bobl – y ffigwr uchaf ers 2001.
Mae’r rhif diweddaraf yma, yn ogystal â bod yr uchaf ers 17 mlynedd, yn gynnydd o 20 y cant ar y llynedd ac yn gynnydd enfawr o 41 y cant i fyny ar 2015/16.
Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd Huw Francis: “Mae ein ffocws ar deuluoedd wir yn talu ffordd gyda’r cynnydd o ymwelwyr bron yn gyfan wedi ei wneud o rieni a phlant.”
Ychwanegodd: “Mae’r newydd wedd yma wedi dod ochr yn ochr â rhai datblygiadau atyniadol fel ein tŷ trofannol poblogaidd, Plas Pilipala ac ein maes chwarae i blant, sydd wedi ei ail-gynllunio’n gyfan gwbl , ond mae dal tipyn eto i ddod.
“Ym mis Mehefin eleni byddwn yn gweld agor Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig, a fydd yn cynnig profiadau sy’n unigryw yn y DU. Rydym hefyd eleni wedi lansio prosiect arbennig sef Tyfu’r Dyfodol – sy’n hyrwyddo gerddi a garddio er mwyn iechyd a lles, yn ogystal â dathlu garddwriaeth Gymreig – ac mae ein prosiect Adfer Rhaglywiaeth barhaol eleni yn gweld trawsffurfiad anferthol o’r tirlun ehangach.”
Ychwanegodd Mr Francis: “Ni allaf ganmol y tîm yma ddigon. Mae’r gwaith caled ym mhob adran yn trosgludo ein neges o ‘Gadwraeth, Addysg, Ysbrydoliaeth’ ac yn wirioneddol wych. Dylent fod yn bles iawn o’r hyn maent wedi eu cyflawni.”
Wedi pum mlynedd wnaeth weld niferoedd yr ymwelwyr yn aros bron yr un peth o amgylch y 110,000 marc, gwelodd mentrau newydd yr Ardd ganlyniad cyflym ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf gyda chynnydd syth o 25,000.
Targed yr ymwelwyr i’r Ardd ar gyfer 2018/19 yw 180,000.
Yn ychwanegol i ymwelwyr hamdden i’r Ardd, fe wnaeth y flwyddyn weld 10,789 o ymweliadau Addysg a 5,199 o ymwelwyr corfforaethol.
- Elusen yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi ei ymrwymo i ymchwil a chadwraeth o fioamrywiaeth; i gynaladwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.
- Agorodd ym mis Mai 2000 fel un o dri phrosiect eiconig y Mileniwm yng Nghymru. Hi yw’r unig un y tu allan i brifddinas y genedl, yn meddiannu parcdir hanesyddol (ystâd Middleton) yn cynnwys 568 o erwau ac yn corffori Gwarchodfa Natur Genedlaethol a fferm organig, yn ogystal â bod yn lle gwych i arddangos rhai o blanhigion sydd fwyaf mewn perygl yn y byd.
- Mae’r Ardd ar agor yn ddyddiol heb law am Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.