Ymweliad Brenhinol

Mae’r goeden ifanc yma yn un o bump a gafodd eu himpio o Dderwen enwog Pontfadog a syrthiodd mewn storm yn 2013. Roedd y dderwen yn fwy na 1,200 o flynyddoedd oed a thyfodd i 43 troedfedd o gwmpas a hon oedd y dderwen fwyaf yn y DU ar y pryd.

Bydd dwy goeden ifanc yn cael eu plannu mewn lleoliadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng ngogledd ddwyrain Cymru: un yng Nghastell y Waun ac un arall yn y coetiroedd coffa yn Erddig. Rhoddwyd y goeden ifanc a oedd yn cael ei phlannu yn y Waun i’r Frenhines ar ran pobl Cymru. Bydd y goedwig ifanc eraill yn cael eu plannu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Wrth gyflwyno’r goeden ifanc i’r Tywysog, dywedodd Mr Drakeford: “Roedd Derwen Pontfadog yn symbol o gryfder, sicrwydd a phresenoldeb cyson ym mywydau cymaint o bobl ac, yn yr ystyr hwnnw, mae’n cynnig adlewyrchiad o’r holl bethau rydym wedi dathlu fel rhan o’r jiwbilî yn ogystal â bod yn rhan o ymgyrch Canopi Gwyrdd y Frenhines sydd wedi nodi blwyddyn y jiwbilî.”

Wrth dderbyn yr anrheg, dywedodd Tywysog Cymru: “Mae’n achlysur mor arbennig i allu coffáu’r derw anferth yma… Rwy’n gobeithio y bydd yn tyfu ac yn rhoi diddordeb a phleser ychwanegol i gynifer o bobl sy’n cymryd sylw am y gwahaniaeth mae coed yn ei wneud i’n bywydau.”

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd y brawd a chwaer Jo Williams a Chris Morris a gafodd ei fagu ar Fferm Cilcochwyn, ger Y Waun, lle safai’r dderwen ar un adeg ac y mae ei deulu wedi bod yn ffermio’r tir yno ers pum cenhedlaeth.

Roedd Jo wrth ei bodd yn gallu rhannu rhai o’i hatgofion o’r hen goeden gyda’r Tywysog: “Rydw i wedi ei hadnabod ar hyd fy oes ac mae gen i luniau o pan oeddwn i’n blentyn bach gyda mam yn sefyll o’i blaen. Dros y blynyddoedd, denodd ddiddordeb y Guinness Book of Records oherwydd ei oedran a’i thewdra, ac mae’r ysgol leol yn ei ddefnyddio fel ei logo.

“Mae’r coed ifanc yn edrych mor neis ag rydw i wir yn gwerthfawrogi’r ffordd mae tîm yr Ardd Fotaneg wedi eu harddangos. Mae heddiw wedi bod yn emosiynol iawn. Fe wnes i grio pan ddisgynnodd i lawr a, pan welais y coed ifanc, dechreuais grio eto.”

Dywedodd ei Brawd Chris: “Cydymdeimlodd y tywysog â ni am farwolaeth y goeden a dywedodd ei fod wrth ei fodd bod hyn yn digwydd a’i fod yn ymwneud ac aileni.

“Fe’m magwyd fy chwaer a mi ar Fferm Cilcochwyn, sef lle’r oedd y goeden. Treulion ni ein hieuenctid yn chwarae yn y goeden. Roeddwn i’n dweud wrth y Tywysog am y gwartheg y gallwch chi eu cael i mewn oherwydd ei fod yn wag; boncyff mawr, gwag gyda’r holl dyfiannau bylchog hyn o gwmpas y tu allan.

“Byddai’r ffermwr lleol yn ei ddefnyddio fel corlan ddefaid. Pe bai ganddo ddafad ac oen yr oedd am eu cadw ar wahân, byddai’n eu rhoi yn y goeden ac yn gosod giât o amgylch yr ochr. Roeddem ni’n arfer cael caerau yno ac adeiladu cuddfannau; fe allech chi ddringo i fyny’r tu mewn i’r goeden.

“Pe baech chi wedi ei weld yn ôl yna byddech chi wedi dweud wrthych chi’ch hun: “Sut ar y ddaear mae hwnna’n sefyll?”’

Dywedodd curadur yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Alex Summers ei bod yn syfrdanol meddwl bod yr hen dderwen tua 1200 mlwydd oed pan ildiodd i’r tywydd gwyllt yn 2013.

Ychwanegodd: “Mae’n gyffrous i’r Ardd Fotaneg gael cyfle i fod yn warchodwyr y coed ifanc yma ar ôl dychwelyd i Gymru. 

“Wrth ddatblygu’r Coedfa Cenedlaethol yma yn yr Ardd Fotaneg, bydd y coed ifanc yma yn ein cysylltu â treftadaeth naturiol y genedl, ynghyd a’r coed eraill a blannwyd ledled y wlad”.