Y Frenhines yn anrhydeddu gŵr cydnerth yr Ardd Fotaneg

Mae Is-Gadeirydd y Bwrdd o Ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg, John Gwyndaf Ellis wedi cael ei wobrwyo gyda Threfn Arbennig yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines.

Mae Mr Ellis, 77, yn Gyn-Gyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Dyfed ac mae wedi bod yn yr Ardd Fotaneg am dros 20 mlynedd. Fe ddaeth yn ymddiriedolwr yr Ardd yn 1995 – pedair blynedd cyn iddi agor – at ddymuniad y prif weithredwr yr adeg honno, William Wilkins.
Dywedodd: “Mae hyn yn ddiwrnod balch iawn i mi. Ac un arbennig i’r Ardd Fotaneg hefyd. Credaf yn gryf bod yr Ardd yn gynnyrch o ddatganoliad ac yn arwydd o genedligrwydd aeddfed a chymdeithas sifil.”

“Y weledigaeth a’r genhadaeth yma oedd y rheswm i mi fod yn gysylltiedig â’r Ardd ac mae’n bleser i weld bod Llywodraeth Cymru yn ei hystyried yn ased cenedlaethol, ac ers iddi agor ym mis Mai 2000, mae miliynau o ymwelwyr wedi mwynhau’r Ardd.”

Wedi geni yn Abergynolwyn ym Meirionnydd, roedd Mr Ellis – sy’n siaradwr Cymraeg iaith-gyntaf – yn ddisgybl o Ysgol Ramadeg Towyn, cyn astudio gradd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fe aeth gyrfa o addysgu a Mr Ellis i Fryste, Canolbarth Gorllewinol Lloegr a Swydd Warwig, cyn iddo ddychwelyd i Gymru i weithio i awdurdod addysg leol Abertawe. Yn dilyn cyfnod o weithio gyda AAL Gorllewin Morgannwg, cafodd Mr Ellis ei apwyntio yn ddirprwy cyfarwyddwr o addysg yn Nyfed ac yna’n cael ei wneud yn gyfarwyddwr yn 1990.

Cymerodd ymddeoliad cynnar yn 1996 cyn ad-drefniant yr awdurdod lleol.

Ers hynny, yn ogystal â’i ymdrechion diddiwedd i’r Ardd Fotaneg, mae Mr Ellis wedi gwirfoddoli gyda’r elusen Dolen Cymru Lesotho, sy’n helpu plant amddifaid yn ne’r deyrnas Affricanaidd; yn un o sefydlwyr Menter Cwm Gwendraeth; ac oedd yn llysgennad o wobr y Dug Caeredin.

Mae gan Mr Ellis dau o blant a chwe ŵyr, mae’n byw yn Llanddarog, ger Caerfyrddin. Buodd yn briod i Miriam am 48 mlynedd cyn iddi farw yn 2008 ar ôl ymladd cancr y fron am ddwy flynedd.

Yn Rhestr Anrhydeddau llynedd, cafodd Llywydd Anrhydeddus yr Ardd Fotaneg, Gareth Edwards, ei urddo’n farchog.