Trosglwyddiad Hwb yn boblogaidd iawn gyda gwirfoddolwyr

Trosglwyddwyd yr adeilad mewn seremoni arbennig ar ddydd Mercher Mehefin 1af – Diwrnod Cyntaf o Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr.

Dywedodd y Pennaeth Marchnata, David Hardy: “Mae’n wych i ddathlu gwaith ein gwirfoddolwyr anhygoel a gobeithio y bydd y gofod newydd yma yn ganolbwynt anhygoel iddyn nhw – rhywle i eistedd i lawr a phaned o de, i rannu eu straeon neu fel cysgodfa.”

Dywedodd Jane Down, Cydlynydd Gwirfoddolwyr: “Roedd yn ddigwyddiad hyfryd – gyda the a chacen hefyd. Rwy’n siŵr y bydd gwirfoddolwyr yn gwerthfawrogi’r ystum yma yn fawr ac, yn bwysicach, yr adeilad yma.”