Trîts i’r cŵn yn yr Ardd

A ydych yn mwynhau ymweld â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol gyda’ch ci?

Os ydych, yna mae gennym newyddion i chi: bydd pob diwrnod ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd.

Ie, wir. Nid dim ond bob dydd Llun, bob dydd Gwener ac ambell benwythnos, ond bob dydd, a hynny o ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019 tan ddydd Mawrth 31 Rhagfyr 2019.

Efallai yr hoffech gwtshio gyda’ch ci wrth fwynhau siocled poeth yn y bwyty neu’r caffi? Efallai yr hoffech fynd am dro tawel o amgylch y gadwyn o lynnoedd gyda’ch cyfaill pedair coes, gan edmygu tirwedd y gaeaf a’r bywyd gwyllt? Neu, efallai y byddai’n well gennych fentro ymhellach i ben arall y warchodfa natur genedlaethol, o bosibl?

Mae gan bawb eu hoff bethau, ond ni waeth sut yr ydych yn mwynhau’r Ardd, gellwch ddod â’ch ci gyda chi bob tro y byddwch yn ymweld â’r Ardd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

A chofiwch am ein cynnig tocynnau ‘bwmerang’, sy’n golygu y gellwch ymweld â’r Ardd mor aml ag yr hoffech o fewn saith niwrnod ar ôl eich ymweliad cyntaf – cofiwch gadw eich derbynneb yn ddiogel. Gofynnwch i’n tîm mynediad am fanylion.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi, a’ch cŵn sy’n ymddwyn yn dda, yn fuan iawn.

Mae’r Ardd yn agored rhwng 10am a 4pm bob dydd. Y pris mynediad yw £11.50 (gan gynnwys Rhodd Cymorth). Ni chodir tâl am gŵn. Gellwch fynd â’ch anifail anwes i bob rhan o’r Ardd, ac eithrio’r Plas Pilipala a’r Tŷ Gwydr Mawr, lle gofynnwn i chi gadw eich anifeiliaid anwes yn yr ardal agored ger y caffi.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ardd Fotaneg, ewch i https://garddfotaneg.cymru/