Mae arbenigwyr seismig wedi bod yn archwilio tirlun hanesyddol cuddiedig yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i ddatrys dirgelwch sy’n degawdau-oed.
Un o’r gwyddonwyr, sy’n gweithio i Shearwater Geophysical yn Llundain, yw Neil Jones. Fe ddywedodd: “Fel arfer, mae’r dechnoleg yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu lluniau tanddaearol o’r Ddaear i ddyfnderau o bum cilomedr er mwyn darganfod dyddodion olew a nwy.
“Rydym wedi lleihau’r dull i filfed o’i graddfa wreiddiol. Dyma’r tro cyntaf yr ydym wedi ei defnyddio yn dŵr ffres ym Mhrydain i greu llun 3D o dirlun boddiedig. Gallwn gyflawni darlun hynod fanwl o strwythurau oddi tano lifwaddodion y llyn sy’n gywir o fewn centimetrau.”
Meddai swyddog treftadaeth yr Ardd: “Mae hyn yn gyffrous iawn. Rydym nid yn unig yn gallu dechrau i adeiladu dealltwriaeth glir o’r tirlun canoloesol cyn i’r parc cael ei ail-fodelu yn y 18fed ganrif ond efallai gallwn o’r diwedd sefydlu a yw llên gwerin, mewn gwirionedd, yn wir. Roedd plasty Rhaglywiaeth Syr William Paxton yn un o’r tai Neo-Paladaidd gorau yng Nghymru ond cafodd ei ddinistrio gan dân yn y 1930au ac mae si ar led bod yr adfeilion wedi rholio i lawr y bryn ac wedi diflannu oddi tan y dŵr.”
Ychwanegodd Louise: “Bydd hi’n ddiddorol iawn i weld a oes unrhyw o’r colofnau neu borticos yn gorwedd yna, yn gyfan ac yn gallu cael eu hailgodi.”
Gwelwyd yn y lluniau yw Neil Jones ac Adam Gardiner o Shearwater Geophysical yn gweithio ar lynnoedd yr Ardd