Syr Gareth yn agor Plas Pilipala

Llywydd anrhydeddus Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Syr Gareth Edwards, fydd yn torri’r rhuban yn agoriad swyddogol y Plas Pilipala newydd ar Ddydd Llun Gorffennaf 25ain.

Mae atyniad newydd yr Ardd yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr erbyn hyn, a gyda dros 500 o bilipalod trofannol yna, bydd hi’n atyniad mawr i dwristiaid a thrigolion lleol yr haf yma.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ardd Huw Francis: “Mae hon yn ddiwrnod pwysig iawn i ni ac yn achlysur arbennig felly pwy well i adrodd bod Plas Pilipala nawr ar agor na Syr Gareth.”

Bydd yr agoriad mawreddog yn digwydd am 11yb.