Pot Blodyn – Ar Agor

Daw hyn yn sgil y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mai i roi sêl bendith i ganolfannau garddio agor, a gobeithiwn y bydd yn gam ymlaen tuag at agor yr Ardd gyfan yn fuan iawn.

Felly, os ydych am gael cyflenwad o blanhigion, compost di-fawn, hadau, potiau ac eitemau eraill ar gyfer yr ardd, galwch heibio i’n gweld a dweud helô. Mae mynediad AM DDIM, 1oyb – 5yp.

Mae’r brif Ardd, y siop goffi, y siop lyfrau ail-law a’r toiledau ar gau – ond mae’r man Gwerthu Planhigion yn agored!

Bydd gennym dîm o staff a gwirfoddolwyr yma i’ch croesawu a’ch helpu i barcio, a byddwn yn annog pawb i ddilyn y cyngor ar ‘gadw pellter cymdeithasol’ a chadw dau fetr ar wahân.

Gan ein bod yn cadw at ganllawiau’r Gymdeithas Fasnach Garddwriaeth, bydd yna gyfyngiad ar faint o bobl a fydd yn ardal y Ganolfan Arddio ar y tro, ond bydd yna system giwio syml, gydag arwyddion clir a marciau ar y llawr i’ch helpu i gadw eich pellter oddi wrth eraill.

Rydym hefyd yn lansio ein Cynllun Sicrwydd ar gyfer Achub Peillwyr, a hynny trwy werthu planhigion gan gyflenwyr lleol sydd wedi llofnodi ein haddewid ynghylch dim mawn a dim plaladdwyr, addewid a fydd yn:

  • Diogelu’r peillwyr sy’n ymweld â’ch gardd
  • Gwarantu cynaliadwyedd y pridd y mae eich planhigion yn tyfu ynddo
  • Diogelu’r fioamrywiaeth lle rydych yn byw, ac yn
  • Cefnogi meithrinfeydd a thyfwyr planhigion lleol, annibynnol.

Ac mae gennym ddetholiad o blanhigion rhyfeddol ar werth, sydd wedi cael eu tyfu gan staff a gwirfoddolwyr ar gyfer ein Harwerthiant Planhigion Blynyddol, a gynhelir bob blwyddyn i godi arian ar gyfer yr Ardd.

Felly, bydd dydd Llun yn gyfle gwych i ddod draw i’n cefnogi – ac i gael ychydig o fargeinion botanegol! Byddwn yn derbyn cardiau yn unig ar gyfer yr holl drafodiadau – dim arian parod.

Ni chaniateir cŵn.

Byddwch yn iach – peidiwch ag ymweld os oes gennych unrhyw rai o symptomau’r feirws

Cadwch yn ddiogel – cadwch eich pellter, ac arhoswch ddau fetr ar wahân

Rhowch sylw i’r canllawiau – arhoswch gartref os oes gennych gyflyrau iechyd difrifol neu sylfaenol, neu os ydych yn gofalu am anwyliaid sydd â chyflyrau o’r fath

Cadwch yn lleol – cadwch yn agos at eich cartref a pheidiwch â theithio’n bell

Ac edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’r Ardd Fotaneg yn fuan iawn.