Pan fo Ymgysylltu â Natur yn Chwarae Plant Bach

Cynhelir Diwrnod Chwarae, diwrnod cenedlaethol sy’n dathlu chwarae yn y DG, ar y Dydd Mercher cyntaf ym mis Awst, Awst 5ed eleni – ac mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn gwneud ei rhan.

Dechreuwyd Diwrnod Chwarae fel dathliad o hawliau plant i chwarae, ynghyd â phwylseisio pwysigrwydd chwarae yn yr awyr agored ym mywydau plant. Mae hyn yn cydgordio â strategaeth dysgu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyaeth a chysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol.

Canfyddodd astudiaeth ddiweddar gan y grŵp Eco Atyniadau, y mae’r Ardd yn aelod ohono, bod rhestr enfawr o ddifyrion plentyndod nodweddiadol nad yw plant heddiw wedi’u profi erioed, fel dringo coed, bod yn fwdlyd, gwneud cadwyn o lygaid y dydd, a thyfu llysiau o hadau.

Mae trafnidiaeth gynyddol, ffordd o fyw gorbrysur, a phryderon iechyd a diogelwch, yn golygu’n aml nad yw plant yn cael y cyfle i chwarae yn yr awyr agored gymaint â chenedlaethau’r gorffennol. Datgelodd yr arolwg a ysbrydolwyd gan y grŵp Eco Atyniadau bod plant heddiw yn treulio llai na phum awr yr wythnos yn chwarae yn yr awyr agored, sydd ddim hyd yn oed yn hanner yr 11 awr y treuliodd eu rhieni.

Mae ymgyrch eleni – o dan y penawd, MWY O CHWARAE! – yn galw ar bawb i helpu sicrhau bod plant a phobl ifanc ar draws y DG yn cael yr amser, y lle a’r cyfle i chwarae yn yr awyr agored, ddim yn unig ar Ddiwrnod Chwarae ond trwy gydol y flwyddyn!

Meddai Swyddog Datblygu Addysg yr Ardd Fotaneg, Nancy Hardy: “Mae mynd i’r awyr agored ac ymgysylltu â natur mor bwysig am nifer fawr o resymau; mae’n cynyddu lles meddyliol a chorfforol, datblygu sgiliau rhyng-bersonol, annog dinasyddiaeth gweithredol a gwarchodaeth o’r amgylchedd, codi cyflawniad academig, ac yn meithrin creadigrwydd.”

“Felly, Dydd Mercher nesaf (Awst 5), byddwn yn dathlu Diwrnod Chwarae’r DG yn yr Ardd, gyda’n gweithgareddau hwyliog i’r teulu arferol, ynghyd â llwybr weithgaredd arbennig yn-ôl-i-natur fydd yn archwilio rhannau o’r Ardd na fyddwch wedi ymweld â nhw o’r blaen efallai. Byddwch yn cwrdd â phreswylwyr yr Ardd, yn gwneud peth adeiladu, peth dringo, peth palu, a throchi’ch dwylo’n drwyadl!”

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh, gyda’r mynediad olaf am 5yh. Mae gweithgareddau teuluol yn digwydd rhwng 12 canol dydd a 4yp bob dydd.

Y tâl mynediad i’r Ardd yw £9.75 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros 5 oed. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd, pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, galwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

• Dyfarnwyd yn ddiweddar i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru y dangosydd o ddarpariaeth addysg o ansawdd da a gydnabyddir yn genedlaethol, y Bathodyn Dysgu Tu Allan i’r Stafell Ddosbarth.