Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn agored i’r cyhoedd eto o ddydd Llun 6 Gorffennaf ymlaen.

Diolch yn fawr iawn i’n holl aelodau, ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr, ffrindiau a phawb arall am fod yn driw i ni trwy’r cyfnod rhyfedd ac anodd hwn.

Gyda’n 568 erw, rydym yn fwy na hyderus y byddwn yn gallu bodloni’r holl ganllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol, ond byddwch yn sylwi ar rai newidiadau sydd wedi’u cynllunio i gadw pawb yn ddiogel.

Wrth i ni reoli llif yr ymwelwyr yn ofalus, efallai y bydd yna ychydig o giwiau, felly edrychwch am yr arwyddion diogelwch a dilynwch y canllawiau – byddwn wrth law i’ch helpu os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Bydd yr Ardd yn agored rhwng 10am a 6pm, saith niwrnod yr wythnos.

I weld y prisiau, edrychwch ar ein gwefan.

Os ydych yn Aelod, peidiwch ag anghofio dod â’ch cerdyn aelodaeth gyda chi. Dyma eich tocyn ar gyfer mynd i mewn i’r Ardd Fotaneg.

Mae’r Rhodfa’n edrych yn hyfryd ar hyn o bryd, a chadwch olwg ar y gwaith ailblannu ac adfer sy’n mynd rhagddo yn yr Ardd Gors. Ar ddiwedd y Rhodfa, mae’r Ardd Glogfeini yn orlawn o liwiau, yn yr un modd â’r Ardd Wyllt i lawr wrth y Tŷ Gwydr Mawr. Bydd yn rhaid i chi ymweld â’n Gardd Ddeufur hanesyddol, unigryw hefyd.

‘Nawr yw’r amser perffaith i fwynhau ein mannau agored, prydferth. Archwiliwch yr Ardd Goed, ewch am dro tawel ar hyd un o’n llwybrau cefn gwlad, ewch i Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, cymerwch gipolwg ar Goedwig y Tylwyth Teg, synnwch at Goedwig y Bwganod, a mentrwch allan i’r ystad ehangach i fwynhau rhyfeddodau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.

Mae ein cynnig o ran arlwyo yn gyfyngedig ar hyn o bryd – hufen iâ, diodydd oer, ac ati – ond mae yna feinciau picnic ar bellter cymdeithasol y gallwch eu defnyddio os byddwch yn dod â’ch lluniaeth eich hun. Mae yna drefniadau glanhau manylach ar waith hefyd, felly byddwch yn amyneddgar â staff ein cyfleusterau wrth iddynt sicrhau bod yr Ardd yn ddiogel ar eich cyfer.

Erbyn hyn, mae gennym farciau ar y llawr i sicrhau eich bod yn cadw o leiaf ddau fetr oddi wrth y person neu’r teulu nesaf bob amser.

Mae’r Tŷ Gwydr Mawr nawr ar agor, a byddwch yn gweld system unffordd newydd ynddo. Yr unig beth a ofynnwn yw eich bod yn dilyn y saethau ac yn cadw eich pellter.

I’n cadw ni i gyd yn saff, mae’r rhan fwyaf o’n hardaloedd dan do eraill – yr Oriel, Neuadd yr Apothecari a’r Tŷ Gloÿnnod Byw – ynghau; ond mae’r Cae Chwarae’r Plant, Bwyty Tymhorau, Cwtsh, Siop Rhoddion, a thoiledau yn y Bloc Stablau yn agored, ac mae yna fyrddau a chadeiriau yng Nghwrt y Bwyty os bydd angen i chi gymryd seibiant. Nid yw’r gwasanaeth bygis i ymwelwyr yn gweithredu, ond bydd ein sgwteri symudedd ar gael. Bydd angen archebu’r rhain ymlaen llaw trwy ffonio 01558 667149.

Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio wrth fynedfa ac allanfa’r Ardd ac wrth gyfleusterau’r toiledau, a thalwch sylw i’r arwyddion o amgylch yr Ardd er mwyn sicrhau ymweliad diogel a phleserus.

  • Byddwch yn iach – peidiwch ag ymweld os oes gennych unrhyw rai o symptomau’r feirws.
  • Cadwch yn saff – cadwch eich pellter, gan sicrhau eich bod o leiaf ddau fetr ar wahân.
  • Rhowch sylw i’r canllawiau – arhoswch gartref os oes gennych gyflyrau iechyd difrifol neu sylfaenol, neu os ydych yn gofalu am anwyliaid sydd â chyflyrau o’r fath.

I gael yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’r Ardd Fotaneg yn fuan iawn.