Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Ardd yn tyfu

Mae’n bleser gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyhoeddi penodiad pum Ymddiriedolwr newydd.

Maent yn cynnwys Mel Doel, darlledwr i’r BBC a Chyn-gadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Sarah Jennings, cyfarwyddwr cyfathrebu yn Cyfoeth Naturiol Cymru; Dr Helen Matthews, Seiciatrydd Ymgynghorol ymddeoledig o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Yr Athro Pete Wall, ffisiolegydd clinigol a chyn-gadeirydd pwyllgorau moeseg ymchwil yng Nghymru; a’r Athro Iain Donnison, pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r pump wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae dau yn byw yn Sir Gaerfyrddin – ac yn siaradwyr Cymraeg.

Croesawyd y recriwtiaid newydd gan Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Gary Davies, a’r Is-gadeirydd, Julie James.

Dywedodd Gary: “Mae’n bleser enfawr croesawu aelodau newydd ein bwrdd, gyda phob un ohonynt yn dod â thalentau newydd ac arbennig i’r Ardd Fotaneg. Gyda’u cymorth a’u sgiliau, gallwn barhau â’r gwaith rhagorol a wneir yma mewn achos arbennig iawn”.

Mae’r Ardd Fotaneg yn elusen, sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae swydd yr Ymddiriedolwr yn un wirfoddol a, gyda’i gilydd, rôl y gwirfoddolwyr yw cefnogi’r Cyfarwyddwr i weithredu gweledigaeth a strategaeth y sefydliad.

Mae’r penodiadau newydd yn ymuno â bwrdd sy’n cynnwys pobl megis Syr Roger Jones, y cynghorydd sir Dai Jenkins o Gyngor Sir Caerfyrddin, yr hanesydd gardd Liz Whittle, a’r cyn-aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol, Eluned Parrott. I gael rhestr lawn o Ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg, ewch i https://garddfotaneg.cymru/about-the-garden/trustees/

Agorodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2000, ac mae’n ymrwymedig i ymchwilio i fioamrywiaeth a chadwraeth bioamrywiaeth, ac i gynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.