Lansio Prosiect CARED

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Mental Health Matters Wales, wedi sicrhau cyllid i gynnal grŵp gofalwyr misol sy’n agored i anwyliaid sy’n byw gyda rhywun sydd ag anhwylder bwyta.

Bydd yr arian – a ddaw o gais llwyddiannus i Loteri Cod Post y Bobl – hefyd yn darparu gofal dydd i bobl sy’n gwella o anhwylder bwyta.

Bydd y grŵp misol yn gwahodd siaradwyr arbenigol a fydd yn rhoi dirnadaeth o feysydd megis ymddygiadau, tynnu sylw, maeth, therapi a budd-daliadau. Bydd y ganolfan ddydd yn cynnig cymorth ymarferol i ddioddefwyr, er enghraifft gwaith ar ddelwedd y corff, gosod nodau, a chymorth gyda phrydau bwyd, a bydd hefyd yn darparu addysg a gweithgareddau a fydd wedi’u gosod o amgylch lleoliad therapiwtig a phictiwrésg yr Ardd Fotaneg.

Yn ystod y lansiad ffurfiol ar gyfer y prosiect, roedd yr AC Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru, Bethan Sayed, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta, wedi disgrifio’r cam fel “prosiect rhagorol, cefnogol ac angenrheidiol”.

Siaradodd yr AS Islwyn Chris Evans hefyd yn y digwyddiad lansio, a dywedodd: “Roeddwn yn falch iawn o glywed am y cynlluniau. Mae gan y grŵp hwn y potensial i fod yn fodel ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled y wlad, ac edrychaf ymlaen at ddilyn ei gynnydd.”

Aeth Pennaeth Addysg yr Ardd, Paul Smith, ati i esbonio: “Bydd y grŵp hwn yn un a fydd â mynediad agored, gan olygu nad fydd angen i chi drefnu apwyntiad na gwneud atgyfeiriad, a bydd yn cael ei gynnal am 12 mis.”

Dywedodd y byddai’r prosiect yn dibynnu ar arbenigedd sylweddol Mental Health Matters Wales, yn ogystal â gwasanaethau cwnsela Ardal 43, lleoliad therapiwtig Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth yr Ardd Fotaneg ei hun, yr elusen BEAT ar gyfer anhwylderau bwyta, a darparwyr gweithgareddau a therapïau eraill, yn ôl yr angen.

Y dyddiadau cyntaf ar gyfer y Cyfarfodydd Gofalwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw dydd Iau 7 Tachwedd 6-8pm a dydd Sul 10 Tachwedd 12-2pm.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Donna Mason donna.mason@mhmwales.org neu Paul Smith paul.smith@gardenofwales.org.uk