Lansiad Swyddogol o Dirwedd wedi’i Hadfer

Buom yn dathlu cwblhau’r prosiect chwe blynedd hwn gyda Julie James AS – y Gweinidog Newid Hinsawdd,  cyllidwyr, gwirfoddolwyr a chyfeillion yr Ardd. Agorwyd y dirwedd yn swyddogol gan y Farwnes Kay Andrews OBE (Dirprwy Gadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru) a gwirfoddolwyr yr Ardd Terry Treharne a Susan Davies.

Hoffem ni ddiolch yn fawr ein holl gyllidwyr sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn, mae’r rhain yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – a phawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Richard Broyd, Sefydliad Waterloo, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth y Pererinion, Sefydliad Tai Gwledig, Ymddiriedolaeth Patsy Wood, a Sefydliad Garfield Weston.

Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn yn hanes yr Ardd!